Polisi preifatrwydd

Cyflwyniad

Mae Mwy Na Miwsig Cymru wedi ymrwymo i amddiffyn preifatrwydd a diogelwch data personol. Fel elusen yn ne Cymru sy’n darparu gweithdai cyfranogol, rydyn ni’n dilyn egwyddorion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) er mwyn sicrhau bod gwybodaeth bersonol o bob math yn cael ei thrin â gofal a thryloywder.

Y Data a Gasglwn

Rydyn ni’n casglu’r data personol sy’n angenrheidiol i ddarparu ein gwasanaethau, gan gynnwys:

  • Manylion cyswllt (e.e. enw, cyfeiriad, e-bost, rhif ffôn)

  • Manylion demograffaidd (e.e. oedran, rhywedd) er mwyn monitro cynhwysiant a chydraddoldeb.

  • Adborth cyfranogwyr, ffotograffau neu fideos (gyda chaniatâd).

  • Gwybodaeth am iechyd neu hygyrchedd (os yw’n cael ei rhannu, er mwyn darparu ar gyfer anghenion penodol).

Sut rydyn ni’n Defnyddio eich Data

Rydyn ni’n defnyddio data personol i:

  • Drefnu a darparu gweithdai a rhaglenni.

  • Cyfleu diweddariadau pwysig neu gyfleoedd.

  • Monitro, gwerthuso a gwella ein gwasanaethau.

  • Cyflawni gofynion cyfreithiol, diogelu ac ariannol.

Y Sail Gyfreithiol dros Brosesu

Rydyn ni’n prosesu data personol ar y seiliau cyfreithiol canlynol:

  • Caniatâd: Ar gyfer gweithgareddau fel ffotograffiaeth, marchnata neu storio data sensitif.

  • Angen Contractiol: I ddarparu gwasanaethau y mae cyfranogwyr yn gofyn amdanynt.

  • Buddiannau dilys: At ddibenion gwerthuso ac adrodd.

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol: I gydymffurfio â gofynion diogelu neu reoliadol.

Storio Data a Diogelwch

Rydyn ni’n storio data personol yn electronig a/neu ar ffurf papur. Mae’r mesurau’n cynnwys:

  • Ffeiliau wedi eu hamgryptio a systemau sy’n cael eu hamddiffyn gan gyfrinair.

  • Dim ond personél awdurdodedig caiff gyrchu data personol.

  • Adolygiadau rheolaidd er mwyn sicrhau bod data’n gyfoes ac yn berthnasol.

Rhannu Data

Nid ydym yn gwerthu nac yn rhannu data personol â thrydydd partïon at ddibenion marchnata. Gellir rhannu data â’r canlynol:

  • Arianwyr neu werthuswyr (yn ddienw lle bo modd).

  • Cyrff rheoleiddio neu awdurdodau diogelu (pan fod angen gwneud hynny yn ôl y gyfraith).

Eich Hawliau

Mae gan unigolion yr hawl i:

  • Gyrchu eu data a gofyn am gopi ohono.

  • Cywiro data sy’n anghywir neu’n anghyflawn.

  • Gofyn am ddileu data, lle bo hynny’n berthnasol.

  • Cyfyngu neu wrthwynebu prosesu’r data.

  • Tynnu eu caniatâd i brosesu data nad yw’n hanfodol yn ôl unrhyw bryd.

Sut i Gysylltu â Ni

Os oes unrhyw gwestiynau neu bryderon gennych, neu os ydych am ymarfer eich hawliau, cysylltwch â’r:
Swyddog Diogelu Data
Mwy Na Miwsig Cymru,
Y Ffatri, Stryd Jenkin, Y Porth CF40 9PP
E-bost: friends@morethanmusic.org.uk
Ffôn: 01443 583293

Diweddariadau Polisi

Mae’r polisi hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol a’i ddiweddaru fel y bo angen er mwyn adlewyrchu newidiadau o ran rheoleiddio neu weithrediadau.

Diweddarwyd Ddiwethaf: 6 Rhagfyr 2024

Trwy gydymffurfio â’r polisi GDPR yma, mae Mwy Na Miwsig Cymru’n sicrhau parch, tryloywder ac atebolrwydd wrth reoli data personol.