Ein Gwreiddiau
Nôl yn 2008, sbardunwyd syniad am brosiect i gysylltu Cymoedd y Rhondda â Threflannau Cape Town, dan arweiniad Plant y Cymoedd,elusen datblygu cymunedol oedd wedi ymrwymo i ehangu gorwelion a datgloi potensial.
Prosiect amlddiwylliannol ysblennydd oedd Prosiect Mzansi Cymru, a gymerodd 4 blynedd o baratoi ac a ddaeth i’w anterth gyda ‘Torchbearers’ cyflwyniad oedd yn cynnwys 180 o berfformwyr o Gymru a De Affrica, yn rhan o Olympiad Diwylliannol Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ac ArtsCape, Cape Town yn 2012. Roedd y prosiect yn cyfuno drama, dawns a syrcas mewn stori serch torcalonnus a chalonogol, oedd yn dechrau yn nyddiau apartheid De Affrica.
Ffurfiwyd cnewyllyn côr yng Nghymoedd y De, dan arweiniad ymarferwyr llais naturiol, gan gynnwys rhai o aelodau Only Men Aloud, i osod sylfaen ar gyfer y prosiect. Un o’r rhai a ymunodd â’r côr oedd Amy Jenkins, â’i llais hynod ac uchelgais i arwain côr rhyw ddydd.
Yn 2012, gwireddodd ei huchelgais pan ddaeth Côr Mzansi Cymru yn Gôr Cymunedol More Than a Song, ac mae Amy wedi bod yn rhan o siwrnai’r côr fel ei arweinydd byth ers hynny.
Hyn, yn ei dro, oedd y sbardun i greu’r elusen Mwy Na Miwsig er mwyn datblygu portffolio ehangach o weithgareddau a chyfleoedd y tu hwnt i fodolaeth y côr, ac ymestyn ei gwmpas daearyddol.
Erbyn heddiw, mae Amy Jenkins yn ymarferydd llais naturiol profiadol a chymwys, a hi yw’r grym sy’n gyrru Mwy na Miwsig Cymru.
