Cwrdd â’r Tîm

Ein tîm

Amy Jenkins, y sylfaenydd a’r grym creadigol y tu ôl i’r cyfan, sy’n arwain Mwy Na Miwsig. Mae Amy yn ymarferydd llaisnaturiol profiadol a chymwys â dros 20 mlynedd o brofiad o drawsnewid bywydau trwy gân.  Rydyn ni’n ffodus iawn i fod â thîm bach ond dawnus o ymarferwyr creadigol sy’n helpu i ddarparu ein sesiynauar hyn o bryd, ac wrth edrych tua’r dyfodol, rydyn ni am feithrin ein tîm mewn ymateb i’r angen a’r galw yn y gymuned.

Amy Jenkins

Yr hynod ddawnus a charismataidd Amy Jenkins sy’n arwain Mwy Na Miwsig Cymru. Yn hanu o Gymoedd y de, mae Amy’narweinydd corau ac yn ymarferydd llais naturiol ysbrydoledig. Mae hi wedi graddio’n ddiweddar fel Ymarferydd Hyfforddiant Lleisiol Proffesiynol, ac mae hi bellach yn athrawes canu gofrestredig ar wefan flaenllaw Vocal Process. Mae ganddi 20 mlynedd o brofiad o arwain canu mewn grwpiau cymunedol, o weithdai bychain i ddigwyddiadau cymunedol graddfa fawr, gan gynnwys WaterAid a dathliadau Dinas yr Annisgwyl yng Nghaerdydd.

Mae gan Amy ardystiad Cymorth Cyntaf Iechyd Lleisiol ac Arwain Canu er mwyn Iechyd yr Ysgyfaint, ac mae’n Hwylusydd Gwaith Lleisiol Byrfyfyr hyfforddedig. Gyda chefndir cadarn mewn gwaith ieuenctid a chymunedol, mae hi’n Nyrs Feithrin gymwysedig ac yn arweinydd Iaith a Chwarae hyfforddedig hefyd, ac mae ganddi gyfoeth o brofiad o ymgysylltu pobl o bob oedran trwy rym cerddoriaeth a llais.

Jiffy

Drymiwr amryddawn o dde Cymru yw JiffyGriffiths. Mae’n adnabyddus am ei sgiliau technegol a’i berfformiadau deinamig. Fel aelod o’r triawd offerynnol Kinky Wizzardsac arweinydd gweithdai samba, mae Jiffy’nmeithrin ymdeimlad cadarn o gymuned trwy gerddoriaeth, gan helpu pobl eraill i ymgysylltu a thyfu. Wedi perfformio mewn achlysuron o fri fel Sioe Drymiau Llundain, mae ganddo arbenigedd dysgu yn sgil 10 mlynedd o brofiad fel tiwtor preswyl Drum Depot, lle mae’n darparu sesiynau difyr ym mhob arddull er mwyn helpu’r cyfranogwyr i ddatblygu eu techneg, magu hyder a meithrin cysylltiadau dyfnach â cherddoriaeth a pherfformio.

Adam

Mae Adam Jenkins yn gerddor ac yn gyfansoddwr ymroddgar â dros 20 mlynedd o brofiad ym maes dysgu cerddoriaeth. Dysgodd ei hun i ganu’r gitâr yn 15 oed, ac erbyn hyn mae’n rhedeg Jenkins MusicLessons, sy’n cynnig hyfforddiant pwrpasol fesul un a fesul grŵp ar gyfer myfyrwyr ar bob lefel. Mae Adam yn angerddol ynghylch magu hyder, meithrin creadigrwydd a datblygu gwaith byrfyfyr ei fyfyrwyr, gan eu cynorthwyo i wireddu eu potensial cerddorol. Gyda chefndir cadarn ym maes gwaith ieuenctid a chymunedol, gan gynnwys cynorthwyo oedolion ag anableddau, mae e wedi ymrwymo i ddefnyddio cerddoriaeth fel dull o ymgysylltu, mynegi’ch hun, ac ymbweru pobl.

Ein Hymddiriedolwyr

Grŵp ymroddgar o bobl broffesiynol profiadol sydd wedi ymrwymo i lywio ein sefydliad ag uniondeb, gweledigaeth ac arbenigedd yw Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.  Trwy gyfuno cyfoeth o wybodaeth o amrywiaeth o feysydd  - gan gynnwys cyllid, llywodraethu, datblygu cymunedau, y celfyddydau, TG ac iechyd meddwl - maen nhw’n chwarae rhan allweddol wrth lywio ein cyfeiriad strategol. Yn angerddol am ein gweledigaeth, maen nhw’n sicrhau arweinyddiaeth gref, atebolrwydd a thwf cynaliadwy, gan ein cynorthwyo ni i gael effaith ystyrlon yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

Hina Morton

Cadeirydd

Mae Hina wedi bod yn gweithio ym maes gweinyddu pensiynau ers 2005. Bu’n arwain tîm mewnol o weinyddwyr, gan ddarparu gwasanaethau ar gyfer cynlluniau DB a DC, yn ogystal â rheoli buddion gweithwyr fel yswiriant bywyd, amddiffyn incwm, a gofal meddygol preifat.

Yn ei swydd fewnol, roedd Hina’n cynnig cymorth llywodraethu ysgrifenyddol cynorthwyol ar gyfer y cynllun pensiwn DB £1bn+, a bu’n ysgrifennydd y Bwrdd Llywodraethu Pensiynau a Buddion corfforaethol ar gyfer yr holl fuddion eraill.

Ar hyn o bryd, mae’n Uwch Bartner i Grŵp Llywodraethu Annibynnol sy’n cynorthwyo Ymddiriedolwyr trwy gymryd cyfrifoldeb dros ran helaeth o’r busnes pob dydd; rheoli dogfennaeth cynlluniau, eitemau agenda a chydgysylltu ag ymgynghorwyr a darparwyr cynlluniau er mwyn sicrhau bod y cynllun yn rhedeg yn llyfn. Mae Hina wedi cwblhau’r Dyfarniad a’r Dystysgrif Ymddiriedolaeth Pensiynau, ac mae’n gweithio tuag at ddod yn aelod achrededig llawn o Gymdeithas yr Ymddiriedolwyr Pensiynau Proffesiynol.

Siân Mahoney

Ysgrifennydd

Mae Siân wedi bod yn gweithio fel darparydd gofal ers 15 mlynedd, ac mae ganddi brofiad personol o’r sialensiau y mae cymunedau’n eu hwynebu wrth ddod o hyd i weithgareddau cyfoethogi diogel a chynaliadwy sy’n agored i bawb. Mae gan Siân 20 mlynedd o brofiad o wirfoddoli mewn cymunedau difreintiedig drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n darparu ar gyfer pobl o bob oedran.

Mae ganddi brofiad unigryw o weld pa mor hanfodol yw’r gwasanaethau hyn, a’r ffordd orau o ystyried gwahanol amgylchiadau er mwyn darparu prosiectau cynhwysol sy’n darparu ar gyfer pawb.

Keiran McGaughey

Ymddiriedolwr

Keiran yw un o sylfaenwyr Like An Egg Productions, cwmni cynhyrchu fideos a sefydlwyd ym Mhontypridd yn 2010. Mae rhestr cleintiaid y cwmni’n cynnwys llywodraeth genedlaethol a lleol, prifysgolion ac elusennau fel Macmillan, Ymddiriedolaeth Afu Prydain, a Phlant y Cymoedd. Daw Keiran â chyfoeth o wybodaeth greadigol ac ysbryd o fentergarwch i’w rôl fel ymddiriedolwr.

Mae e’n deall potensial trawsnewidiol rhannu straeon i feithrin dealltwriaeth, empathi a newid cadarnhaol o fewn cymunedau. Mae Keiran a Like an Egg wedi bod yn hyrwyddo mentrau sy’n hybu cysylltiadau â’r celfyddydau a diwylliant erioed, ac yn arbennig ymysg poblogaethau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol. Mae ganddo 14 mlynedd o brofiad fel cynhyrchydd yn gweithio gyda chyllidebau bach a mawr.

Mae e’n angerddol ynghylch darparu cyfleoedd i alluogi pobl o amrywiaeth o gefndiroedd i wireddu eu potensial creadigol, a rhannu eu safbwyntiau unigryw â’r byd.

Pete Withers-Jones

Ymddiriedolwr

Fel arbenigydd profiadol ym maes TG, mae gan Pete dri degawd o brofiad ym maes datblygu meddalwedd a rheoli cwmnïau digidol a phrosiectau graddfa fawr. Mae e wedi gweithio dros amrywiaeth eang o gleientiaid, o brosiectau darparu gwasanaethau critigol ar gyfer y GIG, i atebion rheoli ac e-fasnach ar gyfer corfforaethau rhyngwladol mawr, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn gwasanaethau digidol sy’n addasu i fodloni anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, yn ogystal â chreu a chynnal y strwythur a’r rheolaeth sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau diogelwch data.

Jonathan Bundy

Ymddiriedolwr

Mae Jon wedi treulio bron i ddau ddegawd yn gweithio gyda Phlant y Cymoedd, sefydliad cymunedol sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo unigolion a theuluoedd mewn ardaloedd difreintiedig. Dros y blynyddoedd, mae e wedi cael y fraint o weithio gyda phobl o bob cefndir, gan helpu i greu gofod lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed a’u hymbweru.

Datblygu cymunedau yw ei angerdd, gan gynorthwyo prosiectau a mentrau sy’n darparu cyfleoedd a phrofiadau newydd ar gyfer pobl na allai eu cyrchu fel arall. Mae Jon wir yn credu, gyda’r gefnogaeth a’r anogaeth iawn, y gall pawb gyrraedd eu llawn botensial a thrawsnewid bywydau. Mae gweithio wrth galon y gymuned wedi rhoi dealltwriaeth ddofn iddo am y sialensiau y mae pobl yn eu hwynebu, a hefyd o’r dycnwch, y creadigrwydd a’r cryfder sy’n bodoli o fewn y cymunedau hyn. Mae e wedi ymrwymo i barhau â’i waith a chydweithio ag eraill sy’n rhannu gweledigaeth ar gyfer newid cynhwysfawr ac effeithiol.