Y manteision

Pam fod Cerddoriaeth yn Bwysig: Y Wyddoniaeth y tu ôl i Ganu a Lles

Mae effaith ddofn cerddoriaeth a chanu ar iechyd corfforol, lles meddwl a chysylltiadau cymunedol wedi bod yn amlwg ers tro byd. Mae gwaith ymchwil ym meysydd niwrowyddoniaeth, seicoleg ac iechyd y cyhoedd wedi amlygu’r llu o fanteision sydd ynghlwm wrth gymryd rhan mewn gweithdai lleisiol a cherddoriaeth.

I attend Amy's Tuneful Teas group every Thursday. After losing my husband in July 2023, I hit a very hard time and needed to seek help and I was told about this group. It is more than singing; it's welcoming and they spare the time to listen to you. I look forward to every Thursday now.

Gaynor

Manteision i Iechyd Corfforol

  • Gwella Iechyd Anadlol - Mae canu’n ymarfer yr ysgyfaint, yn cryfhau’r diaffram, ac yn gwella rheolaeth anadlol, sy’n llesol i bobl ag anhwylderau anadlol fel asthma a COPD.

  • Ystum a Chryfder Craidd y Corff - Mae techneg leisiol da yn hybu gwell ystum ac yn defnyddio cyhyrau craidd y corff, sy’n cynorthwyo iechyd corfforol yn gyffredinol.

  • Iechyd Cardiofasgwlaidd - Gall canu leihau pwysau gwaed, lleihau’r amrywiaeth yng nghyflymder y galon, a helpu pobl i ymlacio, gan helpu i wella iechyd y galon.

Lles Meddwl a Buddion Gwybyddol

  • Lleddfu Straen - Mae canu’n rhyddhau endorffinau ac ocsitosin, gan leddfu straen a gorbryder wrth godi’r hwyliau. Mae astudiaethau wedi dangos bod canu mewn grŵp yn gallu lleihau lefelau cortisol, sef yr hormon sy’n gysylltiedig â straen.

  • Sbarduno Gwybyddol - Mae ymgysylltu â cherddoriaeth yn actifadu sawl rhan o’r ymennydd, gan wella’r cof, ffocws, a hyd yn oed arafu dirywiad gwybyddol mewn oedolion hŷn.

  • Hyder a Hunanfynegiant - Mae canu’n darparu allfa greadigol, gan helpu unigolion i feithrin hunan-barch a dycnwch emosiynol.

Cymuned a Chysylltiadau Cymdeithasol

  • Lleihau Unigedd Cymdeithasol - Mae canu a chreu cerddoriaeth mewn grŵp yn meithrin ymdeimlad o berthyn a chysylltiad, sy’n hanfodol i drechu unigrwydd, yn arbennig ymysg pobl fregus.

  • Empathi a Chydweithio - Mae canu mewn harmoni’n gofyn am wrando a chydweithio, sy’n cydategu bondiau cymdeithasol a dealltwriaeth rhwng pobl.

  • Cysylltiadau Traws-ddiwydiannol - Iaith gyffredin yw cerddoriaeth sy’n pontio’r bylchau rhwng cenedlaethau a diwylliannau, gan feithrin cynhwysiant a rhannu profiadau.

Mae gweithdai lleisiol a cherddorol yn mynd y tu hwnt i berfformio; maen nhw’n creu cymunedau mwy iach a hapus lle mae unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu hymbweru a’u gwerthfawrogi, ac yn fwy cysylltiedig â’i gilydd. 

Mae Mwy Na Miwsig wedi ymrwymo i sicrhau bod y buddion hyn ar gael i bawb, am fod pawb yn haeddu’r cyfle i wella ansawdd eu bywydau.

Diwrnod Canu Cymunedol