Ymunwch â ni!

Mae Mwy Na Miwsig Cymru’n dibynnu ar gefnogaeth y gymuned, rhoddion a gweithgareddau codi arian. Gallai eich cymorth wneud gwahaniaeth go iawn.  

Gwirfoddolwch

Dim ots faint o amser sydd gennych i’w sbario, byddai’n hyfryd cael eich cymorth:

  Cynorthwyydd Gweithdy – Cynorthwywch ein hwyluswyr yn ystod sesiynau canu a drymio trwy helpu i baratoi, siarad â’r cyfranogwyr, neu wneud paneidiau o de a choffi.

 Cymorth i Ddigwyddiadau a Phrosiectau - Helpwch i drefnu digwyddiadau cymunedol, perfformiadau a chyngherddau codi arian. Gallai’r tasgau gynnwys gwerthu tocynnau, trefnu raffls, bwcedi casglu, dosbarthu taflenni a phosteri, croesawu gwesteion, paratoi’r ystafell, neu gydlynu logisteg.

 Y Cyfryngau Cymdeithasol a Lledu’r Gair- Helpwch ni i ledu’r gair am ein gwaith trwy greu cynnwys, rhannu straeon, neu estyn allan at grwpiau newydd a allai elwa ar ein sesiynau.  

 Trafnidiaeth a Chymorth i Gyrraedd - Cynigiwch lifft i bobl i’r sesiynau, neu helpwch i baratoi’r ystafelloedd er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn gyffyrddus.

 Clust i Wrando a Bydi Lles - Byddwch yn wyneb cyfeillgar i’r bobl hynny sydd angen cymorth emosiynol ychwanegol yn ystod sesiynau, gan sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u clywed.

 Rhannwch eich Sgiliau eich Hun! – Dim ots a oes gennych brofiad o ffotograffiaeth, gweinyddu, codi arian, neu unrhyw beth arall a allai ein cynorthwyo gyda’n gwaith, byddai’n braf clywed gennych.

Dim profiad cerddorol? Dim problem!Brwdfrydedd, dibynadwyedd a pharodrwydd i feithrin cysylltiadau â phobl yw’r sgiliau pwysicaf y gallwch eu cynnig.

Am wirfoddoli? Cysylltwch heddiwbyddai’n bleser eich croesawu chi i’r tîm! 

Os nad oes amser gennych i’w sbario, beth am helpu i Ledu’r Gair

Mae rhannu, hoffi a sgwrsio’n helpu! Dywedwch wrth eich ffrindiau am Mwy Na Miwsig Cymru, gwahoddwch ni i’ch grŵp cymunedol, neu rhannwch ein gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol.

Codi Arian

  • Sialensiau Nawdd – Gallech redeg, cerdded, beicio, nofio neu hyd yn oedneidio o awyren i godi arian.

  • Gwerthu Cacennau a Boreau Coffi - Pobwch bethau blasus i’w gwerthu yn y gwaith, yr ysgol neu’r gymuned.

  • Noson Cwis - Trefnwch gwis gwybodaeth gyffredinol neu ar thema arbennig gan godi ffi mynediad a chynnig gwobrau.

  • Raffl neu Ocsiwn - Casglwch wobrau a chynhaliwch raffl neu ocsiwn ar lein.

  • Diwrnod Hwyl i’r Gymuned  – Trefnwch ddigwyddiad i deuluoedd gyda gemau, stondinau a gweithgareddau.

  • Diwrnod Gwisg Ffansi neu Ddillad eich Hun - Codwch ffi fach am wisgo i fyny (neu i lawr!)

  • Codi Arian yn y Gweithle - Dechreuwch jar rhegi, cystadleuaeth pobi i’r swyddfa, neu ginio elusennol.

  • Tawelwch neu Sialens Nawdd - Mynnwch nawdd i fynd heb dechnoleg, cadw’n dawel neu gyflawni sialens unigryw.

  • Arwerthiant Cist Car neu Gyfnewidfa - Gwerthwch eitemau diangen neu cynhaliwch gyfnewidfa ddillad am gyfraniadau.

  • Parti Swper neu Ddigwyddiad Blasu - Cynhaliwch glwb swper, te prynhawn neu ddigwyddiad blasu gyda ffi mynediad.

  • Nawdd Corfforaethol - Gweithiwch mewn partneriaeth â busnesau lleol i gael nawdd neu gyllid cyfatebol.

  • Codi Arian ar Lein - Defnyddiwch blatfformau cyllido torfol neu cynhaliwch achlysur rhithiol fel raffl neu gystadleuaeth.

Gweithiwch mewn Partneriaeth â Ni

Rydyn ni wrth ein bodd yn cydweithio â busnesau, ysgolion a sefydliadau er mwyn ehangu ein heffaith. Boed yn gyngerdd elusennol, yn gynllun rhoddion yn y gweithle, neu’n gyfle am nawdd, gadewch i ni gydweithio i ddod â rhagor o gerddoriaeth i ragor o fywydau.

Cysylltwch â ni i drafod syniadau..