Ein gwerthoedd

  1. Cynhwysiant: Rydyn ni’n credu y dylai pawb, beth bynnag fo’u cefndir neu eu gallu, gael y cyfle i gymryd rhan ac elwa ar ganu, creu cerddoriaeth a gweithgareddau celfyddydol.

  2. Lles: Rydyn ni’n credu ym mhŵer cân a cherddoriaeth i hyrwyddo lles meddyliol, emosiynol a chymdeithasol, ac rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin amgylcheddau sy’n cynorthwyo lles holistaidd unigolion a chymunedau.

  3. Ymbweru: Rydyn ni’n credu ym mhotensial trawsnewidiol y llais a cherddoriaeth wrth ymbweru unigolion, gan feithrin hyder, creadigrwydd a thwf personol.

  4. Hygyrchedd: Rydyn ni wedi ymrwymo i greu rhaglenni ac adnoddau cerddorol sy’n hygyrch i bawb, gan ddileu rhwystrau i gyfranogaeth a sicrhau cyfleoedd cyfartal o ran ymgysylltiad.

  5. Ansawdd: Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu profiadau canu a cherddoriaeth grŵp o safon uchel, sydd wedi eu gwreiddio mewn rhagoriaeth, proffesiynoliaeth ac ymrwymiad i wella’n barhaus.

  6. Cydweithio: Rydyn ni’n gwerthfawrogi cydweithio a phartneriaeth, gan gydnabod taw’r ffordd orau o sicrhau newid ystyrlon yw trwy ymdrech gydweithredol, a chydweithio â rhanddeiliaid, cymunedau a sefydliadau.

  7. Parch: Rydyn ni’n trin pob unigolyn â pharch, urddas a thrugaredd, gan anrhydeddu amrywiaeth o brofiadau, safbwyntiau a hunaniaethau o fewn ein cymuned.