Ein darpariaeth

Canu er mwyn Llawenydd

Cyd-leisio Byrfyfyr

Yn y dosbarth yma, bydd cyfranogwyr yn archwilio gwaith byrfyfyr lleisiol o’r galon, gan ganolbwyntio ar sgiliau gwrando, mynegiant creadigol, a chysylltu â phobl eraill i gyfoethogi eu perseinedd unigol a chydweithredol.

I have been going to Amy’s vocal improvisation sessions for nearly two years. They have become an extremely valuable part of my life and unique in that here, it is conducive to experimentation, learning and growth as a singer, and as a human being.

Helen Probyn Williams

Côr Cymunedol

Ymunwch â’n côr croesawgar a chefnogol, lle nad oes angen unrhyw brofiad o ganu - dim ond cariad at gerddoriaeth a’r awydd i fod yn rhan o grŵp sy’n teimlo fel teulu. Dim ots a ydych chi’n hen law ar ganu neu’n ddechreuwr pur, mae ein côr yn cynnig lle cefnogol ble mae pawb yn cael eu hannog i ffeindio’u llais a mwynhau grym y gân gyda’i gilydd. Gyda ffocws ar hwyl, ymgysylltu a chreadigrwydd, mae’r côr yn meithrin ymdeimlad cryf o berthyn, gan gynnig gofod lle gall aelodau fagu hyder, cwrdd â ffrindiau newydd, a phrofi llawenydd creu cerddoriaeth fel cymuned.

Digwyddiadau Cymunedol

Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiadau cymunedol mawr, lle mae pawb yn cael gwahoddiad i ddod ynghyd, cael hwyl, a dathlu grym cerddoriaeth, waeth beth yw lefel eu profiad. Mae hi’n gyfle i ddod ynghyd â’r bobl yn eich cymuned a chreu naws o lawenydd gyda’ch gilydd.

Glee Club

Grŵp canu bywiog ar gyfer pobl yn eu harddegau yw Glee Club. Mae’n rhoi cyfle iddynt fagu hyder, wrth roi hwb i’w hunan-barch, cael hwyl trwy gerddoriaeth, a’r cyfan wrth wella eu sgiliau lleisiol a meithrin cyfeillgarwch mewn amgylchedd cefnogol.

Chorus Club

Grŵp canu a symud egnïol llawn hwyl i blant 6-11 oed yw Chorus Club. Mae’r plant yn cael cyfle i fagu hyder, cwrdd â ffrindiau a datblygu eu sgiliau canu trwy weithgareddau creadigol mewn amgylchedd cefnogol.

Cyd-leisio Byrfyfyr (canu o’r galon yn Rhydyfelin)

Canu er mwyn Iechyd

Cartrefi Gofal a Chartrefi Gofal Dydd

Mae’r sesiynau calonogol hyn mewn cartrefi gofal a chanolfannau gofal dydd yn canolbwyntio ar les trwy ddefnyddio cerddoriaeth i hybu hapusrwydd, ymlacio a chwmnïaeth, gan gynnig lle cefnogol i’r cyfranogwyr fwynhau canu a phrofi manteision therapiwtig cerddoriaeth.

Sesiynau Canu Dementia

Mae’r Sesiynau Canu Dementia yn cynnig llecefnogol i unigolion â dementia a’u teuluoedd brofi caneuon cyfarwydd, sy’n hybu’r cof, yn codi’r hwyliau ac yn meithrin cysylltiadau trwy gerddoriaeth, wrth feithrin ymdeimlad o lawenydd a lles.

Canu i Bobl ag Amhariad ar eu Golwg

Mae’r dosbarth canu yma wedi ei gynllunio’n bwrpasol ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall,ac maent yn canolbwyntio ar les, hunanfynegiant a llawenydd cerddoriaeth mewn amgylchedd hollol gynhwysol a chefnogol. Bydd y cyfranogwyr yn datblygu eu sgiliau lleisiol, yn dod i gysylltiad â phobl eraill, ac yn profi manteision therapiwtig cân, oll wrth ddarparu cymorth pwrpasol ar gyfer pobl ag amhariad ar eu golwg.

Canu er mwyn Iechyd yr Ysgyfaint

Dosbarth therapiwtig yw Canu er mwyn Iechyd yr Ysgyfaint. Mae’n defnyddio ymarferion lleisiol a thechnegau anadlu i wella capasiti’r ysgyfaint a’r system anadlu yn gyffredinol, wrth hybu ymlacio a lles mewn amgylchedd cefnogol.

Tuneful Teas

Sesiynau hamddenol a chyfeillgar yw Tuneful Teas, lle gall oedolion fwynhau cerddoriaeth a chwmnïaeth, ac ymlacio dros baned a sgwrs. Nid oes angen unrhyw brofiad o ganu.

Sesiynau Canu i Deuluoedd

Drymio

Samba

Mae ein Dosbarthiadau Samba ar gyfer pobl o bob gallu, ac yn ffordd hwyliog ac egnïol o ddysgu rhythmau samba, cwrdd â phobl newydd, a theimlo’n hyderus ac yn llawn egni wrth ddrymio i’r rhythm mewn amgylchedd cefnogol.

Sesiynau Samba Cymunedol

Gitâr

Gweithdai Gitâr

Mae ein gweithdai gitâr yn darparu ar gyfer plant ac oedolion, gan greu lle cyffyrddus braf i bobl ddatblygu eu sgiliau cerddorol a magu hyder. Bydd y plant yn archwilio’r hanfodion, yn gwneud gwaith byrfyfyr ac yn ymuno mewn sesiynau jamio fel grŵp - gan wella eu techneg, datblygu eu sgiliau byrfyfyr, a dod i adnabod pobl ifanc eraill sy’n caru cerddoriaeth.

Gweithdy Gitâr