Cerddoriaeth er mwyn iechyd a lles: magu dycnwch trwy gerddoriaeth a mwy.

Cerddoriaeth sy’n rhoi enaid i’r bydysawd, adenydd i’r meddwl, rhydd hynt i’r dychymyg a bywyd i bopeth.

Plato

Mwy na Miwsig - Anadlu Llawenydd i Fywyd

Elusen leol yn Rhondda Cynon Taf yw Mwy na Miwsig Cymru. 

Mae ein cenhadaeth yn syml: cynorthwyo lles corfforol, emosiynol a meddyliol pobl trwy eu tynnu ynghyd trwy rym calonogol y llais a cherddoriaeth. Rydyn ni’n bodoli i greu profiadau trawsnewidiol llawn hwyl sy’n hybu lles ac yn helpu pobl i deimlo’n dda.

Fflachmob Un Byd - Heddwch, Cariad ac Undod

Gall pawb - waeth beth fo’u hoedran, cefndir neu allu, elwa o gymryd rhan yn ein sesiynau pwrpasol a mynediad agored. Rydyn ni’n credu’n gryf bod ein gwahaniaethau’n ein gwneud ni’n gadarnach, a dathlu amrywiaeth yw ein cenhadaeth.

Teimlo’n dda yw’r allwedd i iechyd meddwl a lles, am ei bod yn creu sylfaen gadarnhaol i fagu dycnwch emosiynol, a’r boddhad sy’n dod o gyflawni rhywbeth.

A brilliant, uplifting day, full of energy and community spirit. I for one cannot wait for the next one. Soooon please. Thank you, it was just what I needed and have been looking for.

Amanda Parry